Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

13 Rhagfyr 2021

SL(6)098 – Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2021

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1992 ("Rheoliadau 1992").

O dan Ran 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) wneud cyfraniadau ardrethu annomestig i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Atodlen 4 newydd (Ffigyrau Poblogaeth Oedolion) yn lle’r un presennol yn Rheoliadau 1992 ar gyfer cyfrifiadau mewn perthynas â’r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2014, neu ar ôl hynny.

 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988

Fe’u gwnaed ar: 29 Tachwedd 2021

Fe’u gosodwyd ar: 30 Tachwedd 2021

Yn dod i rym ar: 31 Rhagfyr 2021